Pecyn Cymorth Gwella’r Cwricwlwm

Gall dewis y dulliau cywir o addysgu wella profiad y myfyrwyr. Mae'r safle hwn wedi cael ei ddatblygu gan Brifysgol De Cymru i'ch cefnogi  wrth i chi geisio defnyddio dulliau newydd i adeiladu sgiliau a hyder yn eich dysgwyr wrth iddynt weithio i ymestyn eu gwybodaeth pwnc.

Gan adeiladu ar feincnodi pwnc Asiantaeth Sicrhau Ansawdd y DU (QAA), bydd y wefan hon yn eich arwain drwy eich Pwnc Disgyblaeth i nodi'r sgiliau menter y gellir eu datblygu yn y dosbarth. Yna, cewch eich tywys i ystod o dechnegau 'profedig' sy'n cefnogi datblygiad y sgiliau menter hyn.  Mae'r detholiad hwn o Ganllawiau “Sut i” yr ETC yn cael eu cyflwyno mewn fformat safonol a fydd yn eich cynorthwyo i fewnosod ytechnegau hyn yn eich addysgu.

Mae'r canllawiau hyn hefyd yn cael eu hategu gan enghreifftiau o achosion sy'n seiliedig ar bwnc bywyd go iawn. Mae'r enghreifftiau o achosion hyn yn dangos sut y mae academyddion yn eich maes pwnc yn gweithio gyda'u myfyrwyr a'r effaith y mae hyn wedi'i chael ar eu dysgwyr.

Y Camau Nesaf

Drwy ddechrau yn y dudalen hafan Pecyn Cymorth ETC, fe'ch gwahoddir i “Dewis eich Pwnc”.  Cliciwch ar y pwnc yr ydych wedi ei ddewis fel yr un sy’n cynrychioli eich cwrs / addysgu orau.

Unwaith y byddwch wedi mynd at y pwnc hwn, byddwch yn gweld yr ystod o Ddatganiadau Meincnodi QAA yr ydym wedi eu rhestru yn y maes hwn. Mae pob un o'r rhain yn gysylltiadau 'cliciadwy' felly dewiswch y rhaglen sy'n adlewyrchu orau eich addysgu a chliciwch i weld y sgiliau menter a nodwyd yn y Canllawiau QAA ar gyfer Menter ac Entrepreneuriaeth Addysg (2012) ar gyfer eich pwnc.

Wrth i chi sgrolio i lawr, byddwch yn gweld rhestr awgrymedig o “Ganllawiau Sut I” a fydd yn mynd i'r afael â'r datblygiad sgiliau y mae datganiad meincnod y QAA wedi ei nodi fel un sy’n cyfateb i’r canlyniadau graddedig thematig a restrir o fewn y Canllawiau QAA ar gyfer Menter ac Entrepreneuriaeth Addysg (2012). Cliciwch ar y saeth dde i ryddhau'r “Canllawiau Sut i” llawn.

O dan y Canllawiau ‘Sut i’ fe welwch Enghreifftiau Achos Pwnc o'ch maes pwnc, neu un cysylltiedig. Mae'r rhain yn rhoi amlinelliad o sut y mae gwahanol dechnegau yn cael eu defnyddio wrth addysgu a'r effaith y mae hyn wedi'i gael ar y myfyrwyr.

Yna byddwch yn dod o hyd i Ganllawiau Sut i ac Enghreifftiau Achos Pwnc sy'n eich cefnogi os ydych yn Ymgorffori Entrepreneuriaeth.

Wrth i chi sgrolio i ben y dudalen, fe welwch Adnoddau Ychwanegol i'ch cefnogi ymhellach.

Partneriaid y Prosiect

Mae'r wefan hon wedi'i hariannu gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (HEFCW) a’i darparu gan Brifysgol De Cymru.  Wedi ei hategu gan waith yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch.

Mae adnoddau a chymorth wedi cael eu croesawu gan:

Cydnabyddiaeth

Mae'r prosiect hwn yn arddangos deunyddiau 'profedig' ac enghreifftiau achos. Mae'n cynnig cefnogaeth ac awgrymiadau gan y rhai sydd wedi bod yn gweithio gyda, neu’n parhau i weithio'n uniongyrchol gyda myfyrwyr, ac yn cael ei greu yn effeithiol gan 'academyddion ar gyfer academyddion'.

Mae ein diolch am eu cefnogaeth a'u haelioni yn mynd i:

  • Judith Alexander, Prifysgol Glyndŵr
  • Dr Emily Beaumont, Prifysgol Plymouth
  • Dr Kelly BéruBé, Prifysgol Caerdydd
  • Dr Adam Bock, Prifysgol Caeredin
  • Yr Athro Sally Brown, Ymgynghorydd AU
  • Peter Brown, Prifysgol De Cymru
  • Dr Candida Brush, Coleg Babson
  • Dr Lauren Buck, Prifysgol Sheffield
  • Dr Alistair Buckley, Prifysgol Sheffield
  • Christine Calder, Coleg Dundee ac Angus
  • Neil Coles, Prifysgol Bryste
  • Mike Corcoran, macorcoran.com
  • Dr Amanda Crawley-Jackson, Prifysgol Sheffield
  • Dr Martin Dawson, Prifysgol Salford
  • Track Dinning, Prifysgol John Moores, Lerwpl
  • Charles Dobson, Prifysgol Cumbria
  • Dr Natasha Edwards, Prifysgol Caerdydd
  • Enterprise Educators UK membership
  • Dr Jeremy Evas, Prifysgol Caerdydd
  • Emma Forouzan, Prifysgol De Cymru
  • Yr Athro Allan Gibb, Athro Emeritws Prifysgol Durham
  • Yr Athro David Gibson, Prifysgol John Moores, Lerpwl
  • Yr Athro Patricia Green, Coleg Babson
  • Dinah Griffiths, Hub YES DPP
  • Dr Jeremy Hall, Prifysgol Caerdydd
  • Peter Harrington, SIMVENTURE
  • Sally Harrison, Prifysgol Glyndŵr
  • Yr Athro Colette Henry, Y Coleg Milfeddygol Brenhinol
  • Dr Fay Hield, Prifysgol Sheffield
  • Inge Hill, Prifysgol Birmingham City
  • Marcus Hill, Prifysgol Leeds
  • Yr Athro James Intriligator, Prifysgol Bangor
  • Alexandra Jones, Prifysgol Sheffield
  • Dr Plato Kapranos, Prifysgol Sheffield
  • Carol Langston, CREATE Prifysgol yr Ucheldiroedd a’r Ynysoedd
  • Yr Athro David Lidzey, Prifysgol Sheffield
  • Penny Matthews, Grŵp Llandrillo Menai
  • Ian Merrick, Prifysgol South Bank Llundain
  • Dr Peter McLuskie, Prifysgol Coventry
  • Lisa McMullan, Sefydliad y Merched
  • Dr Alex Mears, Prifysgol South Bank Llundain
  • Ian Merrick, Prifysgol South Bank Llundain
  • Alan Mortiboys, Ymgynghorydd Annibynnol
  • Christine Mullin, Prifysgol Glasgow Caledonian
  • Yr Athro Jim Murray, Prifysgol Caerdydd
  • Charmaine Myers, Prifysgol Sheffield Hallam
  • National Association of College & University Entrepreneurs
  • Yr Athro Heidi Neck, Coleg Babson
  • Dr Emily J Oliver, Prifysgol Aberystwyth
  • Estelle O'Sullivan, Prifysgol De Cymru
  • Sara Pates, Prifysgol Sheffield
  • Yr Athro Andy Penaluna, Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
  • Dr Richard Pilkington, Prifysgol Salford
  • Yr Athro Stephanie Pitts, Prifysgol Sheffield
  • Jon Powell, Prifysgol Lancaster
  • Alison Price, Enterprise Evolution
  • Andrew Price, Prifysgol Teesside
  • Yr Athro Phil Race, Ymgynghorydd AU
  • Yr Athro David Rae, Prifysgol Bishop Grossteste, Lincoln
  • Ali Riley, Prifysgol Sheffield
  • Sybille Schiffmann, Futures Entrepreneurship Centre & Prifysgol Plymouth
  • Karen Turnball, Prifysgol De Cymru
  • Dr Les Tumilty, Prifysgol Aberystwyth
  • Jenny Warburton, Prifysgol Salford
  • Dr Carys Watts, Prifysgol Newcastle
  • Gary Wood, Prifysgol Sheffield
  • Katie Wray, Prifysgol Newcastle

Cyfrannwch drwy ein tudalen gyswllt os gwelwch yn dda.