Mae ystod eang ar gael i'ch cynorthwyo wrth i chi geisio 'gwella'r cwricwlwm'. Mae'r adnoddau canlynol yn darparu cefnogaeth arbenigol ar gyfer Addysg Uwch y DU all fod o ddefnydd i chi.

Gweler ein Cwestiynau a Ofynnir yn Aml (FAQ) isod.

 

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Beth yw'r Canllawiau QAA ar gyfer Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth?

Bwriad y Canllawiau hyn yw bod o gymorth ymarferol i'r rhai sy'n gweithio gyda myfyrwyr mewn addysg uwch i feithrin eu sgiliau mewn menter ac entrepreneuriaeth a gellir eu gweld yn:http://www.qaa.ac.uk/en/Publications/Documents/enterprise-entrepreneurship-guidance.pdf

Nid yw’r Canllawiau QAA (2012) “Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth” i Ddarparwyr Addysg Uwch y DU (2012) yn benodol i unrhyw arbenigedd pwnc penodol neu lefel, ond mae wedi'i gynllunio i helpu academyddion, addysgwyr ac ymarferwyr sy'n ceisio ymgorffori menter a / neu entrepreneuriaeth ar draws y cwricwlwm.  Mae’r QAA yn cynghori y dylai hyn gael ei ddarllen ar y cyd â'r Datganiad Meincnod Pwnc QAA priodol sydd i'w weld yma: http://www.qaa.ac.uk/assuring-standards-and-quality/the-quality-code/subject-benchmark-statements

Beth yw'r themâu Menter QAA?

Mae'r Canllawiau QAA ar gyfer Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth (2012) yn nodi saith dull thematig sy'n cefnogi datblygiad ymddygiad mentrus, priodoleddau a sgiliau. Mae'r rhain yn cael eu cydnabod fel gofynion hanfodol cysylltiedig â'i gilydd tra y gellir eu defnyddio i fynegi canlyniadau dysgu ar draws ystod ehangach o fathau o gyflenwi. Y rhain yw:

  1. Creadigrwydd ac Arloesedd
  2. Cydnabod Cyfle, Creu a Gwerthuso
  3. Gwneud Penderfyniad a Gefnogir gan Ddadansoddi Beirniadol a Barn
  4. Gweithredu Syniadau Trwy Arweinyddiaeth a Rheolaeth
  5. Myfyrdod a Gweithredu
  6. Sgiliau Rhyngbersonol
  7. Cyfathrebu a Strategaeth

Mae'r rhain i'w gweld yn fwy manwl o fewn y Canllawiau QAA ar gyfer Menter ac Entrepreneuriaeth (2012) T18- 21

http://www.qaa.ac.uk/en/Publications/Documents/enterprise-entrepreneurship-guidance.pdf

Beth yw’r datganiadau Meincnodi Pwnc y QAA?

Mae’r Datganiadau Meincnodi Pwnc y QAA yn nodi'r disgwyliadau ynghylch safonau graddau’r DG mewn ystod o feysydd pwnc. Maent yn disgrifio'r hyn sy’n rhoi cydlyniad a hunaniaeth i ddisgyblaeth, ac yn diffinio'r hyn y gellir ei ddisgwyl gan un sy’n raddedig o ran y galluoedd a'r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu dealltwriaeth neu gymhwysedd yn y pwnc (QAA 2014). Gellir dod o hyd iddynt yn:

http://www.qaa.ac.uk/assuring-standards-and-quality/the-quality-code/subject-benchmark-statements

A allaf gyfrannu at y Pecyn Cymorth ETC?

Rydym yn eich gwahodd i gyflwyno eich ymarfer 'profedig' fel naill ai astudiaethau achos o'ch gwaith o fewn arbenigeddau pwnc penodol, neu fel “canllaw sut i” generig.

Cyflwynwch eich dull trwy ddefnyddio'r templedi a ddarperir ar ein “Cysylltu â ni”, ac os oes angen unrhyw gymorth i lenwi'r templed cyfeiriwch at y canllawiau ar-lein yn www.etctoolkit.org.ukneu e-bostiwch ni’n uniongyrchol: hello@etctoolkit.org.uk

A allaf gyhoeddi fy ngwaith?

Ar ôl ysgrifennu eich cyfraniad ar gyfer y Pecyn Cymorth ETC, efallai yr hoffech ystyried rhannu eich dull o weithredu drwy gyhoeddi a byddwch yn dod o hyd i amrywiaeth o allfeydd addysg â ffocws yn eich maes pwnc sy’n canolbwyntio ar ymarfer dysgu.

Efallai y byddwch hefyd am ystyried “Experiential Entrepreneurship Exercises Journal - Enabling More Active Entrepreneurial Classrooms Through Sharing, Learning, & Doing”.  Mae'r cyfnodolyn hwn yn gasgliad o ymarferion a adolygir gan gymheiriaid a fydd yn ennyn diddordeb eich myfyrwyr mewn ymarfer y meddylfryd a set sgiliau entrepreneuraidd. Darperir Canllawiau Awdur a gellir cael rhagor o wybodaeth yma: http://launchideas.org/

Pam ddylwn i wneud Sgiliau Menter yn rhan annatod o’m addysgu?

Mae yna nifer o negeseuon clir gan y Llywodraeth, Addysg a Diwydiant sy'n cefnogi ymgorffori sgiliau menter a chyflogadwyedd o fewn Addysg Uwch. Am ragor o wybodaeth a rhesymeg:

Lord Young Enterprise for All (2014) www.gov.uk/government/publications/enterprise-for-all-the-relevance-of-enterprise-in-education

QAA (2012) Addysg Menter ac Entrepreneuriaeth: Canllawiau i ddarparwyr Addysg Uwch y DU Medi 2012 (t 2-6) http://www.qaa.ac.uk/en/Publications/Documents/enterprise-entrepreneurship-guidance.pdf

Trosolwg QAA http://www.qaa.ac.uk/assuring-standards-and-quality/skills-for-employability

NESTA, CIHE, NCEE (2008) Datblygu Graddedigion Entrepreneuraidd http://ncee.org.uk/wp-content/uploads/2014/06/developing_entrepreneurial_graduates.1.pdf

Pa effaith all gwneud menter yn rhan annatod o’ch addysg ei gael?

Mae'r Canllawiau QAA (2012) ar gyfer Menter ac Entrepreneuriaeth yn darparu mewnwelediad a chyfeiriadau ynglŷn ag effaith bosibl ymgorffori sgiliau a phrofiad ymarferol ar gyfer cyflogaeth i mewn i'ch addysgu.

Mae Enterprise Educators UK (EEUK) yn darparu enghreifftiau o'u haelodaeth yn y DU o effaith menter ac addysg entrepreneuriaeth mewn AB ac AU. Mae'r rhain i'w gweld yn:http://www.enterprise.ac.uk/index.php/case-studies

Sut gall Pecyn Cymorth ETC helpu?

Mae'r pecyn cymorth ETC wedi ei gynllunio i’ch cefnogi i wneud newidiadau ar unwaith drwy gydol y flwyddyn addysgu, neu i helpu datblygu ac adolygu cyflwyno eich rhaglen gyfan i sicrhau bod myfyrwyr yn adeiladu sgiliau a gwybodaeth wrth iddynt wneud cynnydd yn eu dysgu.

Gall datblygu sgiliau yn y cwricwlwm wella profiad dysgu'r myfyrwyr drwy adeiladu sgiliau, gwybodaeth a hyder. Mae medrau menter yn cael eu diffinio gan QAA (2012) fel “the application of creative ideas and innovations to practical situations; combining creativity, ideas development and problem solving with expression, communication and practical action”  (t8). Mae galw mawr am lawer ohonynt fel canlyniadau graddedigion gan gyrff proffesiynol yn ogystal ag o dan y Canllawiau QAA. Mae'r Pecyn Cymorth ETC yn defnyddio'r Canllawiau QAA i amlygu'r sgiliau a geisir o fewn pob pwnc ac yn darparu cefnogaeth i alluogi addysgwyr i ymgorffori technegau newydd yn eu haddysgu.  Drwy rannu ymarfer addysgwyr, mae'r Pecyn Cymorth ETC yn cefnogi addysgwyr gyda'r “canllawiau sut i” a’r enghreifftiau o achosion pwnc sydd eu hangen i ddarparu'r ysbrydoliaeth a chefnogaeth.